Accessibility Links

Daw pethau da mewn pecynnau gwyrdd

[English]

Mae Envirowise wedi cydweithio â Chyngor y Diwydiant dros Becynnu a’r Amgylchedd (INCPEN) ar ganllaw ddylunio newydd sy'n anelu at helpu dylunwyr cynhyrchion a deunydd pecynnu, yn ogystal â rheolwyr marchnata a phrynwyr, i wella cynaliadwyedd eu deunydd pecynnu, cael y costau gorau a chanolbwyntio ar gyflawni nodau amgylcheddol.

Mae Canllaw pecynnu: Canllaw i Becynnu Ecogyfeillgar yn esbonio sut i leihau cyfanswm yr adnoddau a ddefnyddir yn y deunydd pecynnu, heb ei leihau i raddau a fyddai'n difetha'r cynnwys. Mae hefyd yn rhoi enghreifftiau ymarferol ynghylch sut i leihau ôl troed amgylcheddol a chael y pris gorau ar gyfer cludo cynhyrchion yn ddiogel o'r fferm neu'r ffatri i'r defnyddiwr neu ddefnyddiwr terfynol arall.

Mae'r Canllaw pecynnu: Canllaw i Becynnu Ecogyfeillgar ar gael ar gais trwy ffonio Llinell Gyngor Envirowise ar 0800 585794 neu drwy fynd i: www.envirowise.gov.uk/GG908