Accessibility Links

Envirowise yn helpu VION i arafu’r llif

[English]

Mae cwmni Cywion Gwledig Cymru o Ynys Môn, sy’n rhan o Grwp Bwyd VION, wedi llwyddo i haneru faint o ddwr y mae’n ei ddefnyddio bob dydd, diolch i wasanaeth cymorth wedi’i deilwra Envirowise.

Mae’r safle prosesu cywion hwn, sy’n defnyddio’r dechnoleg awtomataidd ddiweddaraf, yn cyflogi dros 300 o bobl ac yn cyflenwi prif wneuthurwyr y DU sy’n darparu prydau parod i nifer o adwerthwyr adnabyddus.

Yn dilyn cyngor arbenigol gan Envirowise, cyflwynodd VION Llangefni raglen lleihau defnydd dwr ar draws y safle i ganfod mannau lle gellid gwella a mynd i’r afael â hwy. Canfuwyd nifer o ‘welliannau cyflym’ ar gyfer y safle, gan gynnwys defnyddio chwistrelli golchi â gwasgedd yn hytrach na’r pibelli penagored un fodfedd safonol a ddefnyddir ar hyn o bryd. Mae’r pibelli penagored hyn yn defnyddio tair gwaith cymaint o ddwr, ond ceir yr un canlyniadau glanhau drwy ddefnyddio’r chwistrelli.

Mae Envirowise yng Nghymru yn cynnig cefnogaeth a chyfarwyddyd i fusnesau mawr yng Nghymru sydd â diddordeb mewn defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon. I gael gwybod mwy a llwytho i lawr astudiaeth achos am yr hyn y mae VION Llangefni wedi’i gyflawni, gallwch weld a ydych yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth drwy gysylltu ag wales@envirowise.gov.uk.