Accessibility Links

Gworbrau Fforwm Busnes Caerffili 2009

Yr oedd yn bleser gan Gymorth Hyblyg i Fusnes, Amgylchedd a Chynaliadwyedd ac Envirowise noddi Gwobrau Fforwm Busnes Caerffili yng Ngwesty a Sba Bryn Meadows Golf ddydd Gwener 13 Tachwedd 2009.

Mae cwmni newydd o Grymlyn, sy'n darparu hyfforddiant i'r sector cyfleustodau a pheirianneg sifil wedi derbyn y clod eithaf yng Ngwobrau Fforwm Busnes Caerffili, a hynny ddim ond 18 mis ar ôl cael ei sefydlu.

Enillodd Utility Training Services Cyf y Wobr Busnes Twf Ifanc y Flwyddyn (a noddwyd gan Draig TrainingLink opens in new window) ochr yn ochr â Phrif Wobr Broomfield and AlexanderLink opens in new window yn wythfed seremoni flynyddol Gwobrau Fforwm Busnes Caerffili.

Mae'r busnes, sy'n cynnig amrediad o gyrsiau hyfforddi arbenigol i gleientiaid sy'n cynnwys Laing O'Rourke, AMEC a Wales and West Utilities, yn cyflogi pum aelod o staff yn ei bencadlys yn Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-Fan yng Nghrymlyn, ac mae wedi llwyddo i ehangu amrediad y cyfleoedd hyfforddi a gynigir i fusnesau er gwaetha'r ffaith ei fod wedi'i lansio yng nghanol cyfnod economaidd anodd y misoedd diwethaf.

Derbyniodd Cyfarwyddwr Utility Training Services, Paul Williams y wobr ar ran ei gwmni, ac eglurodd sut mae'r busnes wedi llwyddo i fod yn gwmni blaenllaw yn y maes er iddo gychwyn gweithredu ar ddechrau'r dirwasgiad.

Ochr yn ochr ag Utility Training Services, derbyniodd chwe chwmni arall o Fwrdeistref Sirol Caerffili gydnabyddiaeth am eu llwyddiannau yn ystod y 12 mis diwethaf.

Yr oedd yr enillwyr ar y noson yn cynnwys Gwely a Brecwast Taylor yn y RockLink opens in new window o'r Coed Duon fel Busnes Ifanc y Flwyddyn, gwobr a noddwyd gan Fenter CymruLink opens in new window. Prynodd y perchnogion, Jennifer a'i gwr Paul dafarn hanesyddol y Rock yn y Coed Duon ddwy flynedd yn ôl ac maent wedi'i hadfer i'w hen ogoniant fel tafarn draddodiadol. Er nad oedd ganddi ddim profiad o'r diwydiant twristiaeth na chorfforaethol, mae Jennifer wedi agor ystafelloedd yn y dafarn y dyfarnwyd 4 seren iddynt ac mae wedi sicrhau bod Gwely a Brecwast Taylor yn un o'r llefydd gorau yn y Sir i aros, ac mae ganddi gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol hefyd.

Enillodd Utility and Environmental SolutionsLink opens in new window wobr Busnes y Flwyddyn i gwmnïau â llai na 25 o gyflogeion, a noddwyd gan Gronfa Fuddsoddi Lleol De Ddwyrain CymruLink opens in new window. Mae UES yn darparu gwasanaeth ymgynghori unigryw, sy'n galluogi cwmnïau i leihau eu costau cyfleustodau a'u heffaith ar yr amgylchedd. Gall yr arbedion amrywio rhwng cannoedd a miliynau o bunnoedd. Yr oedd yn gwmni gyda 3 o bobl a throsiant o £75,000 yn 2004 ond mae ganddo bellach 14 o staff a disgwylir y bydd ei drosiant dros £1 miliwn eleni.

Enillodd y cwmni gweithgynhyrchu plastig o Grymlyn, Klockner Pentaplast CyfLink opens in new window Wobr Busnes y Flwyddyn i gwmnïau â dros 25 o gyflogeion, ac yr oedd cystadlu brwd am y wobr hon, a noddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol CaerffiliLink opens in new window. Mae'r cwmni'n cynhyrchu dalennau plastig ar gyfer pacio bwyd yn bennaf, ac mae eu cynnyrch i'w weld ar silffoedd prif archfarchnadoedd y wlad. Ar ôl gwella cefnogaeth ariannol yn gyson dros y blynyddoedd mae'n ehangu ei ffatri yn Ystâd Ddiwydiannol Pen y Fan yn sylweddol.

Dyfarnwyr y Wobr Iechyd Gwaith (a noddwyd gan Her Iechyd CaerffiliLink opens in new window) i'r arbenigwyr yswiriant, rheolwyr ariannol a chyfraith iechyd a diogelwch a chyflogaeth o Gaerffili, Grwp Thomas CarrollLink opens in new window am ei waith neilltuol i hybu iechyd a lles ei dîm o 91 aelod o staff yng Nghaerffili. Mae hyn yn cynnwys caffe bwyd iach, campfa i'r staff, calendr o ddigwyddiadau cymdeithasol a chwaraeon a nifer o bolisïau i sicrhau gweithle iach a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Dywedodd Cadeirydd Fforwm Busnes Caerffili, Martyn Fear, fod y beirniaid yn wynebu her anoddach nag erioed wrth fynd ati i ddewis enillwyr eleni gan fod y busnesau mor benderfynol o ddangos eu penderfyniad a'u gwytnwch yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn anodd i lawer.

Dyfarnwyd Gwobr John Griffiths i Gyflawnwyr Ifanc (a noddwyd gan Peters Food) i Charlotte Burles, Cyfarwyddwr ParkmansLink opens in new window, yr asiantaeth gosod a rheoli eiddo o Abercarn a'r Coed Duon; yr enillydd yn 2008 oedd Jamie Watkins o RUMM. Cymerodd Charlotte reolaeth dros yr hen fusnes hwn yn 2006, pan oedd yn ddim ond 25 oed, ac aeth ati i'w ail-frandio a'i drawsnewid ac ehangu i farchnadoedd masnachol newydd, gan weld cynnydd o filoedd o bunnoedd yn nhrosiant y busnes.

Enillodd busnes arall o Abercarn, y gwneuthurwyr ffenestri a drysau ModplanLink opens in new window, y Wobr Cyflawniad mewn Gweithgynhyrchu, a noddwyd gan y Grwp Seda Packaging. Yn rhan o'r Grwp Burles llwyddiannus a lleol, mae'r cwmni wedi parhau i wella a datblygu'i waith gweithgynhyrchu er gwaethaf y problemau mae gweithgynhyrchwyr wedi'u hwynebu yn ystod y dirwasgiad, ac mae wedi dal ati i fuddsoddi'n drwm mewn prosesau a pheiriannau newydd.

"Mae safon a chryfder y cwmnïau a enwebwyd eleni wedi bod yn uwch na'r hyn a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf," meddai.

"Mae pob un o'r buddugwyr wedi dangos dyfeisgarwch, brwdfrydedd ac ymroddiad i'w busnesau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ni ellir gwadu mai dyma'r flwyddyn anoddaf y mae busnesau wedi'i phrofi ers amser maith, ond mae'r saith busnes hwn wedi dangos ymrwymiad neilltuol i sicrhau twf eu busnesau ac i oresgyn pob rhwystr yn ystod y deuddeng mis diwethaf.

"Y deuddeng mis diwethaf yw'r rhai anoddaf y mae busnesau wedi'u profi yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf, a dylai'r saith cwmni buddugol ynghyd â safon arbennig y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fod yn hynod o falch o'u cyflawniadau yn ystod y flwyddyn.

"Dymunwn bob llwyddiant yn ystod y 12 mis nesaf i'r holl fuddugwyr a phob busnes sydd wedi cael eu henwebu am y gwobrau."

Y busnesau eraill i gyrraedd y rownd derfynol:

  • Y BRIF WOBR: a noddwyd gan Broomfield and Alexander
  • BUSNES IFANC Y FLWYDDYN: a noddwyd gan Fenter Cymru
    Y busnesau eraill i gyrraedd y rownd derfynol: Captiva Spa and longe; The pamper Haven
  • BUSNES TWF IFANC Y FLWYDDYN: a noddwyd gan Draig Training
    Y busnesau eraill i gyrraedd y rownd derfynol: Petra's Cleaning Services; Meithrinfa Ddydd Upsa Daisy
  • BUSNES Y FLWYDDYN (GYDA 25 NEU LAI O GYFLOGEION): a noddwyd gan Gronfa Fuddsoddi Lleol De Ddwyrain Cymru
    Y busnesau eraill i gyrraedd y rownd derfynol: Blackwood Compliance Laboratories; Yacht Lifeline
  • BUSNES Y FLWYDDYN (GYDA 25 NEU FWY O GYFLOGEION): a noddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
    Y busnesau eraill i gyrraedd y rownd derfynol: Pensord Press; Roger Jones and Sons
  • CYFLAWNIAD MEWN GWEITHGYNHYRCHU: a noddwyd gan Seda Packaging Group
    Y busnesau eraill i gyrraedd y rownd derfynol: Cottam and Brookes; lexon Group
  • GWOBR JOHN GRIFFITHS I GYFLAWNWYR IFANC: a noddwyd gan Peters Food Services
    Y busnesau eraill i gyrraedd y rownd derfynol: Gwenllian Davies (Grwp Thomas, Carroll); Paul Williams (Utility training Services)
  • Y WOBR IECHYD GWAITH: a noddwyd gan Her Iechyd Caerffili
    Y busnes arall i gyrraedd y rownd derfynol: Williams Medical Supplies