[English]
Os yw eich busnes yn cynhyrchu dros 30 tunnell o wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn, gallech elwa o Ddosbarth Meistr Dargyfeirio o Safleoedd Tirlenwi a gynigir am ddim gan Envirowise.
Bydd y dosbarthiadau meistr, a gynhelir ym mis Mawrth, yn rhoi'r cyfle i chi drafod eich gwastraff gydag ymgynghorydd arbenigol wrth i chi archwilio eich ôl-troed carbon. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael yn rhad ac am ddim ac yn gwbl gyfrinachol, wedi'i deilwra i fusnesau mawr yng Nghymru.
Dysgwch fwy am sut y gallwch ddargyfeirio eich gwastraff, yr arian y gellid ei arbed a'r manteision o weithio gydag Envirowise er mwyn cyflawni hyn.
Er mwyn mynegi eich diddordeb yn y Dosbarthiadau Meistr Dargyfeirio o Safleoedd Tirlenwi, e-bostiwch Jennifer Collins.