Accessibility Links

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lansio gwasanaeth newydd

[English]

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lansio gwasanaeth newydd sy'n rhoi cyngor ar faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd a chynaliadwyedd i fusnesau yng Nghymru.

Mae'r gwasanaeth Cymorth Hyblyg i Fusnes bellach yn cyfeirio busnesau at ffynonellau i'w helpu i fynd i'r afael ag unrhyw broblem a gwneud y gorau o gyfleoedd amgylcheddol a chynaliadwy, gan gynnwys lleihau gwastraff, lleihau'r defnydd o ynni, arbed arian ar filiau ynni, rheoli gwastraff peryglus, lleihau effeithiau amgylcheddol a bod yn fwy cynaliadwy.

Mae gwasanaethau Envirowise yn parhau fel o'r blaen, heblaw am y ffaith y dylai busnesau sy'n edrych am gyngor bellach gysylltu â Chymorth Hyblyg i Fusnes drwy Ffonio: 03000 6 03000.